Category Archives: Uncategorized

Wplab Tec No Way

SUT ma gweithio hwn?

Oes rhaid imi weiddi?

dwi’n couplandio fy nhestun er mwyn ymddangos yn graff ond go iawn

[(-checks ffitbit charge2  wrist spy-)] dwi’n marw tu fewn er bod y data’n awgrymu ‘n groes i hynny.

Croes.

Honey.

Manna man.

manna man imi gyfadde tra’n cysgu neithiwr bron i’r diafol fy ngwasgu’n fflat fel crempogen

ac yn fy ymdrechion i ddeffro a’i rwystro dychrynais i’r fath radde fel bo’r atgofion o 1994 a radio cymru divorce therapi  yn ymddangos yn hawdd mewn cymhariaeth.

Felly croeso i fy mlog. Therapi digidol ond llythrennau sy ma nid rhifau. E Wyn James soniodd nos Fercher am Pantycelyn yn esgyn a disgyn i’r pegynnau. Moi aussi.

Nis cyfansoddwyd dim ers meityn. Ond rwy’n byw’r creu ac yn gyrru ngwraig yn dwlali. O ddifri nawr alla’i gicio’r bwced unryw ddydd wan on d

mi fyddai’n hapus ac yn cofio meddwl

WITHOUT HOLINESS NO ONE CAN SEE THE LORD wrth fynd.

OND oes gen i’r amynedd a’r hunanddisgyblaeth a’r gallu a’r pwyll i gadw hwn i fynd yny cyfamser? Time Teco time on my wrist when drawn to my face will tell.

FFItBiT myn brain.

Advertisements